Arddangosfa Ogwyn Davies

10:00, 11 Gorffennaf 2022 – 10:00, 12 Medi 2022

Am ddim

Ganwyd Ogwyn Davies ym 1925 yn Nhrebannos yng nghwm Tawe, lle datblygodd ddiddordeb brwd mewn arlunio, bod yn greadigol ac ymarfer llawysgrifen gain. Aeth ymlaen i astudio Celf yng Ngholeg Celf Abertawe, lle treuliodd un o gyfnodau hapusaf ei fywyd. Yno derbyniodd gyfeiriad i’w ddyhead i greu gwrthrychau ac i loywi a datblygu ei dalent.

Fe’i ysbrydolwyd gydol ei yrfa fel artist gan ei brofiadau o fyw a dysgu yng nghymuned wledig ardal Tregaron yng Ngheredigion.    Credodd fod cyfansoddiad strwythurol cadarn yn hanfodol bwysig i unrhyw ddarn o waith, gyda’i ddiddordeb mewn gweadedd wynebol yn ychwanegu at y profiad.

Creodd ddarnau yn seiliedig ar dirwedd, ffyrdd, adeiladau fferm ac adar yn hedfan. Paentiodd y Teifi, Tregaron a graffiti, eira, cerddoriaeth a barddoniaeth. ‘Roedd capeli a llawysgrifen brydferth i gyd yn awgrymu iddo ddirgelwch ac ysbrydolrwydd Bywyd.