Cerddwyr Cylch Teifi: Taith Ffynnone

10:30, 8 Hydref 2022

Cerddwyr Cylch Teifi:  8fed o Hydref 2022

Ffynonnau, Capel Newydd 

Arweinydd: Ali Evans

Byddwn ni’n gadael y maes parcio ger Llyn Ffynonnau am 10:30yb (SN 243 382; ardal cod post SA37 0HQ).

Y daith: Taith gylch wrth-glocwedd o ryw 2.75 milltir a dwy awr, yn bennaf ar draciau coedwigaeth da. Awn ni ar y llethrau uwchlaw’r llyn i Gwm Blaen Bwlan; wedyn ar lwybr ceffylau i ailymuno â’r traciau coedwigaeth ar ochr arall y llyn ac yn ôl arnynt i’r maes parcio.  

Esgyniad: cyfanswm o tua 300 troedfedd, y rhan fwyaf ar y dechrau. Mae angen gofal ar ran gyntaf y llwybr ceffyl wrth inni fynd i lawr llechwedd serth a llithrig.  

Pwyntiau o ddiddordeb: Wrth gerdded, byddwn yn dysgu llawer am hanes ystad Ffynonnau, e.e Cerddwn ni heibio.: 

Bwthyn Pontnewydd, lle roedd gweision y stad yn byw;

Coedwig stad Ffynonnau, lle cawn glywed am hanes y tŷ a’r coed;

Rhaeadr Ffynonnau a’r cysylltiad â’r Mabinogi; 

Bwthyn Tŷ Isaf, Cwmfelin, a’i gysylltiad â’r cyn brif weinidog, David Lloyd George.

Wedyn: I’r rhai sydd eisiau, gallwn gymdeithasu yn Nhafarn y Nag’s Head, Aber-cuch, ar ôl y daith.

_____

Bob tro, rydym yn gofyn i’r Cerddwyr fod yn wyliadwrus er mwyn peidio lledu Covid, gan
– sicrhau eich bod wedi cael y brechiadau sydd ar gael ichi;
– ceisio cadw rhyw bellter cymdeithasol rhesymol oddi wrth gerddwyr sy’n perthyn i aelwydydd eraill;
– peidio â dod ar daith os ydych chi’n:
–hunan-ynysu, neu’n
–dangos unrhyw symptom sy’n gysylltiedig â’r haint.

Diogelwch ar deithiau – rhag damweiniau:
– darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol;
– dewch â dillad addas gan ystyried adeg y flwyddyn a rhagolygon y tywydd, yn enwedig esgidiau cymwys i dir gwlyb ac anwastad;
– cadwch gysylltiad â gweddill y criw trwy aros o flaen y trefnydd a fydd wrth gefn y rhes o gerddwyr;
– hysbyswch drefnydd os gadewch chi’r daith yn gynnar;
– cadwch gŵn ar dennyn;
– cymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded:
ar hyd ffyrdd heb balmant;
ar lethrau serth;
ar lwybrau lle mae disgyniad ar un ochr fel yn aml ar lwybrau’r arfordir

CYSYLLTU: Philippa Gibson 01239 654561 (Grŵp cerdded Cymraeg, gyda chroeso i ddysgwyr)