Diwrnod Agored Hanes Lleol

11:00, 21 Mai 2022

Am ddim

Cymdeithas Hanes Lleol Llandysul a’r Fro

Dydd Sadwrn, 21ain Mai, 2022, 11yb – 4 yh
Neuadd Tysul, Llandysul

Os oes gennych ddiddordeb yn hanes eich cartref neu am Llandysul a’r ardal o gwmpas, yna dewch i weld ein casgliad o Luniau, Dogfennau Cyfrifiad, Adroddiadau’r Ddeddf Brisio, Ffurflenni Ffermydd 1943, gwybodaeth am Siopau a Busnesau, yn ogystal â’n casgliadau amrywiol a diddorol am Landysul a’r Cylch.