Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol Coleg Menai

10:00, 11 Mehefin 2022

AM DDIM

Campws Llangefni yn Paratoi ar gyfer Digwyddiad Cymunedol

Mae campws Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni yn paratoi i groesawu cannoedd o bobl leol i’w Ddigwyddiad Ymgysylltu â’r Gymuned ddydd Sadwrn 11 Mehefin.

Bydd yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan gyda llu o brofiadau dysgu cyffrous, uwch-dechnoleg a gweithdai yn mynd ymlaen at ddant pawb…o weithdai drôn i geir rasio a bwystfilod XPLORE! Ar ben hynny, bydd pawb yn cael bag nwyddau am ddim ac yn cael cyfle i ennill pâr o glustffonau Beats Studio!

Bydd y digwyddiad llawn hwyl – a gynhelir rhwng 10yb a 2yh – yn ceisio dod â phobl Llangefni a’r cyffiniau at ei gilydd a rhoi’r cyfle iddynt ddarganfod mwy am y cynlluniau cyffrous ar gyfer y campws.

Yn ogystal â’r digwyddiad cymunedol, bydd digwyddiad gyrfaoedd hefyd, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi siarad â chynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau, a chael cyngor gyrfaoedd ganddynt.

Mae’r digwyddiad am ddim, yn agored i bawb, ac wedi’i anelu at:

  • Disgyblion ysgol yn ardal Llangefni yn edrych ar eu hopsiynau ar gyfer mis Medi
  • Rhieni sydd am ymweld â’r campws i weld y cyfleusterau a siarad gyda staff
  • Trigolion lleol sydd â diddordeb yn yr hyn sydd gan y campws i’w gynnig
  • Pobl sydd â diddordeb mewn cael swydd neu ddechrau gyrfa newydd
  • Ac yn olaf…teuluoedd sydd eisiau diwrnod allan llawn hwyl!

Ar y diwrnod, gallwch roi cynnig ar lu o weithgareddau cyffrous, a blasu ystod eang o opsiynau bwyd blasus.

Gallwch fynd o amgylch y cyfleusterau, siarad â staff am gyrsiau ar gyfer mis Medi, a byddwch hefyd yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig â STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) gan gynnwys codio, roboteg a pheirianneg.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau niferus yn cynnwys: Hufen Iâ; Cestyll Bownsio; Swigod Dr Zigs; F1 mewn Ysgolion; Gweithdy Drone; Chwaraeon gyda Mon Actif; Adeiladu Blwch Adar; Gweithgareddau Realiti Rhithiol a’r Gwasanaethau Brys – Tân a Heddlu!

Felly, ewch draw i gampws Llangefni ar Ffordd Penmynydd ddydd Sadwrn 11 Mehefin – ni chewch eich siomi!

Digwyddiad Ymgysylltu Llangefni  

Gwefan: www.gllm.ac.uk