Ffair Nadolig Llyfrgell Genedlaethol Cymru

17:00, 8 Rhagfyr 2022

Ffair Nadolig Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ydych chi wedi dechrau siopa Nadolig eto? Os na peidiwch â phoeni, dewch draw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru nos Iau, 8 Rhagfyr am 5pm ar gyfer ein Ffair Nadolig. Bydd cyfle i siopa, mwynhau gweithgareddau amrywiol, bwyta a gwrando ar adloniant byw.

Ar y noson bydd nifer o fusnesau lleol yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau a’r awdur Gwyn Jenkins yn llofnodi ei lyfr newydd Cymru Ddoe. I’r plant, bydd Groto Siôn Corn o 5:00pm ymlaen ac ystafell arbennig i wneud crefftau neu i ysgrifennu llythyr at Siôn Corn. I unrhyw un sydd eisiau ymlacio dros ychydig o fwyd, bydd lluniaeth ysgafn yng Nghaffi Pen Dinas yn cynnwys rholiau twrci poeth, mins peis a gwin cynnes. Ac os ydych chi’n dal i chwilio am yr anrheg Nadolig berffaith bydd digonedd o nwyddau hyfryd ac unigryw ar werth yn Siop y Llyfrgell.

I goroni’r cyfan, bydd adloniant byw yng nghwmni Gruffydd Wyn, cystadleuydd rownd derfynol Britain’s Got Talent ac enillydd Cân i Gymru.

Bydd y Llyfrgell yn llawn bwrlwm y Nadolig ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r Ŵyl gyda chi yn ein Ffair.

Am ragor o fanylion dilynwch ni ar Facebook ac Instagram