Gigs Cefn Car 3 – MAES PARCIO, FRANCIS REES, CEILA

19:30, 8 Rhagfyr 2022

£5

Rydym newydd gyhoeddi ein trydydd ddigwyddiad o’r gigs newydd o’r enw ‘Gigs Cefn Car’
 
Bydd y gigs yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf! Bydd y noson yn cael ei gynnal yn y Glôb, ym Mangor am 7:30pm, 8/12/22. Bydd tri artist yn chwarae sef Ceila, Francis Rees a Maes Parcio. Mae tocynnau yn £5!
 
Mae Ceila yn fand hollol newydd sydd wedi ei ffurfio yng Ngholeg Menai, gyda Calum a gitar, ac Alex ar y drymiau. Dechreuodd project Ceila fel artist unigol, yn perfformio caneuon ei hun yn gig Tom Owen yng Nghaergybi. Mae’r band eisoes wedi ysgrifennu fwy o ganeuon ac yn gyffroes i gael bach o hwyl yn gigio ac yn dangos y stwff newydd. Mae’r can newydd “Paid â Meiddio” yn un i wylio yn ôl y band, felly dewch i’w weld.
 
Mae Francis Rees yn artist “pop freuddwyd” sydd wedi dechrau ar y sin ers creu cerddoriaeth yn camp breswyl Merched yn Gwneud Miwsig a chystadlu ym Mrwydr Y Bandiau (yn cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth). Mae ei cherddoriaeth hi’n cyfleu straeon perthnasol ond personol sydd y dod o fywyd pob dydd. Ei gobeithion yw chwarae fwy o gigs a chwarae ym Maes B ryw ddydd 
 
Band amgen roc newydd o Gaernarfon yw Maes Parcio? Ffurfiwyd ym Marathon Roc Galeri a gwnaethant gerddoriaeth gyda chymorth artistiaid fel Candelas. Wedi’i harwyddo’n ddiweddar gan y label recordiau newydd ‘INOIS’, mae eu sengl newydd Sgen Ti Awydd yn bangar yncp wedi’i hysbrydoli gan Green Day. Yn gigio’n ysbeidiol ers 2019, mae pob perfformiad byw yn egnïol, yn hwyl ac yn dod â’r dorf i mewn. Dyma eu gig cyntaf ers rhyddhau’r sengl, felly dylai holl gefnogwyr pync Cymraeg addawol mentro yna i’w weld.
 
 
Bydd y gig yma yn newid o’r un diweddaraf efo teimlad mwy amgen ond eto caiff ei garu gan ddilynwyr, indie, roc, punk a phawb sy’n caru cerddoriaeth Gymraeg ac yn chwilfrydig i weld y dalent orau sy’n dod allan o’r wlad ar y funud.