Gweithdy Meistroli Straeon Instagram

16:00, 5 Tachwedd 2022

Am ddim

Yn y gweithdy rhyngweithiol hwn sydd wedi ei arwain gan Sioned o gwmni Mwydro, byddwn yn dysgu popeth am beth allai Straeon Instagram (Stories) wneud i ymdrechion marchnata eich busnes, gan gynnwys rywfaint o top-tips a chamau hawdd i’w ddilyn ar sut i’w ddatblygu. Byddwn hefyd yn gweithio tuag at daclo’r ofn cyffredin sydd gan sawl perchennog busnes o ddangos y gwyneb tu ôl i’r busnes ar fideo.

Erbyn diwedd y gweithdy hwn byddwch gyda syniad gwell o sut yw’r ffordd orau i fynd o gwmpas Straeon Instagram, a chynllun gweithredu clir i wneud hynny’n wir a chael gweld cymuned eich busnes yn blodeuo.

Mae Mwydro yn gwmni darlunio digidol gan Sioned Young. Ers symud i fod yn fusnes gwasanaeth digidol yn ystod y cyfnod clo, mae’r busnes wedi tyfu’n sylweddol, yn gwasanaethu cleientiaid ledled y byd gydag offer marchnata digidol unigryw fel gwasanaeth GIFs wedi’i bersonoli. Cenhadaeth Mwydro yw rhoi’r adnoddau i fusnesau bach sefyll allan o’r dorf ar-lein.