Gŵyl Canol Dre

11:00, 9 Gorffennaf 2022

Am ddim

Mae’r ŵyl yn ddiwrnod o hwyl ac adloniant i bobl o Sir Gâr a thu hwnt wrth gynnwys amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau at ddant pawb, gan gynnwys perfformiadau o gerddoriaeth byw, chwaraeon, llenyddiaeth, celf ac amrywiaeth o weithdai.

Mae dau lwyfan ar y maes, un yn cynnwys unigolion a bandiau adnabyddus o’r sîn roc Gymraeg yn perfformio ynghyd â pherfformiadau amrywiol gan ysgolion yr ardal. Dyma’r leinyp:

Candelas, Al Lewis, Los Blancos, Eadyth

50 Shêds o Lleucu Llwyd, Pwdin Reis, Mari Mathias

Sesiwn werin y baedd, Côr Seingar 

Mae’r ŵyl yn cynnig platfform i fusnesau gydag ardal stondinau i werthu nwyddau a chynnyrch ac i fudiadau lleol i hyrwyddo eu gwasanaethau. 

Cynhaliwyd Gŵyl Canol Dre am y tro cyntaf yn 2018 ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin, sef un o brif ddigwyddiadau Cymraeg ardal Caerfyrddin.