Gŵyl Trawsnewid: Burlesque: Herio, cnawdolrwydd a hunanfynegiant

14:00, 30 Gorffennaf 2022

Yn y gweithdy hwn, bydd Izzy yn ein dysgu am hanes burlesque a mynegi natur queer, a bydd cyfle i roi cynnig arni eich hun! Dewch â dilledyn rydych chi’n hapus i’w dynnu yn rhan o’r gweithdy (menig, siaced, sarong, sgarff, bwa pluog, corsed er enghraifft). Byddwn yn darparu ambell i ddilledyn y gallwch eu gwisgo a’u tynnu.
Oed 16+

Gyda’r ymgyrchydd, perfformiwr ac artist Izzy McLeod.

Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae’n archwilio ffigurau queer ac anghydffurfwyr rhyw o fewn hanes Cymru ac yn cefnogi cyfranogwyr i greu gwaith wedi ei ysbrydoli gan eu profiadau eu hunain.

Llefydd cyfyngedig, archebwch eich tocyn am ddim drwy ein gwefan.