Haf o Hwyl – Ceir Rasio

10:00, 15 Awst 2022

Am ddim

Addas i: 11 – 25 Oed. Rhaid i bobl ifanc 16 oed ac iau fod yng nghwmni oedolyn 18 mlwydd oed neu hŷn

 

Cwrs byr, hwyliog ac ymarferol i alluogi pobl ifanc i ymgysylltu â STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a gwella sgiliau gwaith tîm. Bydd dysgwyr yn gweithio mewn parau i adeiladu ceir rasio gan ddefnyddio cydrannau trydanol syml. Bydd dysgwyr yn dilyn cyfarwyddiadau hawdd i adeiladu eu dyfais, gyda chymorth ein tiwtoriaid Rewise. Yna byddant yn rasio eu ceir yn erbyn y timau eraill. Bydd y cwrs byr hwn yn caniatáu i ddysgwyr weld canlyniadau eu gwaith mewn byr o amser, i wella hyder a chymhelliant. 

Mae’r gweithgareddau yma yn cael eu threfnu gan Amgueddfa Cymru a Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru fel rhan o fenter Haf o Hwyl, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.