Noson yng nghwmni cyfeillion, cydweithwyr a theulu Emyr Humphreys i gofnodi fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru erbyn hyn yng ngofal ei holl bapurau.
Ymunwch â M. Wynn Thomas, Arwel Jones, Angharad Price, ac Elin Royles i glorianu ei waith, ynghyd â Dyfan Roberts, Bryn Fôn, Nia Williams, Bethan Dwyfor, a Merfyn Pierce Jones a fydd yn adrodd ei eiriau.
Drysau yn agor am 6.15. Paned a lluniaeth ysgafn ar gael.
**Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – darperir cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyflwyniadau yn y Gymraeg**