Nyth Cacwn – y ddrama (wedi gwerthu mas)

19:00, 3 Awst 2022

Ody – ma Nyth Cacwn nôl!

Dros 30 mlynedd ers i’r teulu bach hwn ymddangos ddiwethaf ar ein sgriniau teledu mae Wiliam (Ifan Gruffydd) yn mentro nôl i Nyth Cacwn am y tro cyntaf oll.

Fydd unrhyw un o’r hen deulu yno? Ac os bydd, pa fath o groeso fydd yn ei ddisgwyl? Os croeso o gwbl!

Fydd yr atebion i’r cwestiynau mawr hyn ddim i’w gweld ar S4C y tro hwn ond ar lwyfan Pafiliwn Bont, am un noswaith yn unig wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

NÔL I NYTH CACWN: Nos Fercher, 3 Awst, Pafiliwn Bont.

Tocynnau: Theatr Felin-fach: 01570 470697 https://theatrfelinfach.ticketsolve.com/shows

Yn cael eu rhyddhau: dydd Gwener, 17 Mehefin.

Cynhyrchiad Cwmni Ddoe a Heddi mewn cydweithrediad â Theatr Troedyrhiw.