Ymunwch â ni i ddathlu pen-blwydd Phyllis Kinney a aned ar y 4ydd o Orffennaf 1922. Bydd ei merch Eluned Evans yn rhoi sgwrs am fywyd a gwaith ei mam, a bydd Elinor Bennett yn rhoi datganiad ar y delyn. Darparir paned a chacen yn ystod egwyl fer.
Estynnir croeso cynnes i chi ddod am brynhawn difyr yn Oriel Gregynog y Llyfrgell i ddathlu cyfraniad yr Americanes Phyllis Kinney i Gymru ac i astudiaethau canu gwerin. Mae archif Phyllis Kinney a’i gwr ‘Merêd’, Meredydd Evans yn rhan o’r Archif Gerddorol Gymreig yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Mae Elinor Bennett ymhlith telynorion mwyaf blaenllaw Cymru, ac mae wedi chwarae gyda holl brif gerddorfeydd Prydain, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Llundain, y Philharmonia a Cherddorfeydd Siambr Lloegr.
**Digwyddiad dwyieithog**