Sioe C.Ff.I Llanllwni

09:00, 29 Awst 2022

£3 i oedolion, Plant Ysgol Gynradd am ddim

Mae Sioe C.Ff.I Llanllwni yn ôl !

Dewch draw i gystadlu mewn amryw o gystadlaethau, boed yn coginio neu dangos blodau yn y babell gynnyrch, yn hyfforddi Jess y ci ar gyfer y Sioe Gŵn, neu’n polisho’r Ffergi fach ar gyfer y Sioe Hen Gerbydau! Yn wir, mae rhywbeth at ddant pawb yn ein Sioe eleni. 

Dewch draw i weld y gorau o gynnyrch lleol a chefnogi elusennau arbennig Tir Dewi, ac Ysbyty Plant Arch Noa. 

Dewch yn ôl ar gyfer yr Adloniant Nos hefyd am 7yh, lle bydd gennym Mochyn Rhost + Bar, ynghyd â Rasus Ceffylau Hwylus, Ocsiwn a thynnu’r raffl fawr.

Diwrnod allan i’r teulu cyfan.