Trychfilod a’r Campau Campus

13:00, 2 Mehefin 2022

Oes gen ti dy gyhyrau’n barod a dy naid seren orau wedi’i berffeithio?! Os felly, mae’n amser ymuno gyda’r Trychfilod a’r Campau Campus!

Gwyliwch y gemau byrbwyll o dan ofal eich cyflwynwyr, y ddau griced direidus!

Pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth nofio, y pry cop neu’r wlithen?! Siwt siap fydd ar y pili pala wrth iddi geisio codi pwysau?!  Ydy hi’n bosib i falwoden allu gwisgo menyg focsio?! Cefnogwch eich tîm a byddwch yn bencampwyr y trychfilod o fewn dim amser!

Gyda cherddoriaeth newydd gan HMS Morris a digonedd o dafod yn y boch, ymunwch â ni am hanner awr o ddwli swreal.

Crewyd gan Familia de la Noche gyda cherddoriaeth newydd gan HMS Morris ac wedi cynhyrchu mewn partneriaeth â Canolfan Mileniwm Cymru, Articulture, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Gwên o Haf Caerdydd.

Mewn partneriaeth â Menter Iaith Abertawe

Oed: 4+

Iaith: Dwyieithog