Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs

13:00, 7 Rhagfyr 2022

Gofal preswyl i fardd yn y flwyddyn 1699 & Ar drywydd tanysgrifwyr i lyfrau Cymraeg y 18ed Ganrif

Ymunwch â ni yn yr ail mewn cyfres o gyflwyniadau Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs, pan fydd Eurig Salisbury yn edrych ar Gofal preswyl i fardd yn y flwyddyn 1699 gan ddefnyddio Ewyllys Siôn Morys o Hafod-y-garreg, brawd y bardd Huw Morys, a bydd Cathryn Charnell-White yn mynd Ar drywydd tanysgrifwyr i lyfrau Cymraeg y 18ed Ganrif gyda Dafydd Wiliam a’i gyfrol Coffadwriaeth o’r haf-sych a gafwyd yn y flwyddyn 1762.

Yn ystod y gyfres hon, sy’n elfen o waith Rhwydwaith y Llawysgrif a’r Llyfr, bydd aelodau o staff Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, yn sgwrsio am arwyddocâd un gwrthrych yr un o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Gan ddefnyddio mapiau, lluniau, llawysgrifau, toriadau papur newydd ac ewyllysiau hyd yn oed, bydd y sesiynau yn trafod amrywiaeth o destunau difyr sy’n ein cludo ar daith o’r cyn-oesoedd i heddiw, ac o Gymru i’r byd.

**Digwyddiad dwyieithog – darperir cyfieithu ar y pryd**