Chwedlau o Gymru gyda Tamar Eluned Williams

10:00, 4 Ebrill 2023

£4

Ymunwch â Tamar i blymio i fewn i straeon gwerin a chwedloniaeth Cymru – byd llawn hud a lledrith, gwrachod, dewiniaid, cewri a thylwyth teg. Dysgwch sut i adrodd stori ar lafar ac o’r cof drwy gemau a gweithgareddau llawn egni a hwyl.

Mae Tamar yn storiwraig wobrwyedig sydd yn adrodd straeon mewn ysgolion a gwyliau ar draws y byd. Mae hi wedi rhannu straeon a chwedlau Cymru mewn nifer o lefydd arbennig ac od, gan gynnwys llyfrgelloedd, pabelli, coedwigoedd, ar lan y môr a – y lle mwyaf od hyd yn hyn – dec uchaf bws rhif 45 ym Mirmingham! Mae Tamar yn credu bod straeon yn berchen i bawb, a dylai pawb deimlo’n hyderus i’w rhannu nhw hefyd.

Gofynnwn yn garedig fod pob plentyn yn aros yng ngofal oedolyn am y sesiwn gyfan.

Mae’r digwyddiad hwn yn addas i blant rhwng 7 a 12 mlwydd oed.

Mae’r digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Gymraeg.