Dathlu cyhoeddi Anwyl Fam

18:30, 23 Mawrth 2023

Am ddim

Dewch i ddathlu cyhoeddi cyfrol ddiweddaraf Ifor ap Glyn. Mae ‘Anwyl Fam’ yn adrodd hanes Dafydd Jones a aeth o Gymru i Goed Mamtez yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf drwy gyfrwng ei lythyrau adref i’w fam, Margaret a gadwodd bob un llythyr.  Mae Ifor ap Glyn wedi ymweld â phob un o’r mannau lle bu Dafydd, wrth geisio ail-greu teithiau olaf y milwr ifanc o Geredigion, a deall ei hanes yn well. Mae’r gyfrol hon yn cyfuno darnau mwya difyr a dadlennol llythyrau Dafydd hefo myfyrdodau Ifor am effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru hyd heddiw.