Lansiad CD Parti Camddwr

19:00, 14 Gorffennaf 2023

Mae ein CD yn barod i lansio! Byddwn yn cyflwyno ein CD i’r cyhoedd yn swyddogol mewn noson arbennig yn Nhafarn y Bont, Bronant ar nos Wener 14 Gorffennaf am 7yh.

Mae croeso mawr i bawb ymuno â ni am noson hwyliog o ganu a chymdeithasu. Bydd mynediad am ddim i’r noson a bydd bwyd ar gael, a diddanwch yng nghwmni Parti Camddwr. Bydd cyfle i chi brynu CD ar y noson – cyfle i fachu bargen!

Dewch yn llu i Fronant i ymuno gyda ni wrth i ni ddathlu cyhoeddi’r CD newydd a chofnod o hanes ein bro!