BBC 100 yng Nghymru: Uchafbwyntiau’r Newyddiadurwyr

19:00, 16 Chwefror 2023

Bethan Rhys Roberts, Felicity Evans a Wyre Davies

Wrth i’r BBC yng Nghymru gyrraedd carreg filltir nodedig o ddarlledu i’r genedl ers canrif, bydd tri o newyddiadurwyr blaenllaw Cymru yn dod ynghyd i fwrw golwg dros rhai o straeon mawr y degawdau diwethaf a’u gwaith o ddod â’r digwyddiadau yn fyw i ni’r gynulleidfa. Byddant hefyd yn trafod pwysigrwydd newyddiaduraeth i’n cymdeithas heddiw mewn oes lle mae cymaint o newyddion ffug.
Mae Bethan Rhys Roberts, Felicity Evans a Wyre Davies wedi gohebu ar rai o brif ddigwyddiadau’r Gymru fodern yn ogystal â rhyfeloedd, ymosodiadau 9/11 a straeon sydd wedi newid trywydd hanes y byd. Byddant yn trin a thrafod gyda chymorth rhai o’r clipiau sydd fwyaf arwyddocaol iddynt o Archif Ddarlledu Cymru, sy’n cynnwys holl raglenni BBC Cymru, ac sydd wedi’i lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Digwyddiad dwyieithog – darperir cyfieithu ar y pryd.