Noson i gofio Mr a Mrs Llywelyn

19:30, 31 Mawrth 2023

Am dros 20 mlynedd bu Mr a Mrs Llywelyn yn byw yn Nhy’r Ysgol, Cribyn – yntau yn brifathro’r ysgol a hithau’n athrawes yn nifer o ysgolion y cyffiniau. Dyma noson i gofio am eu cyfraniad aruthrol i addysg ffurfiol yr ardal rhwng naw o’r gloch y bore a hanner awr wedi tri ac i addysg, iaith a diwylliant y fro o hanner awr wedi tri nes amser clwydo! 

CADWCH Y DYDDIAD! – Manylion pellach i ddilyn.