Pared Gwyl Ddewi

13:00, 4 Mawrth 2023

Am ddim

Y gŵr busnes, artist a ‘thad Mr Urdd’, Wynne Melville Jones (Wyn Mel), fydd Tywysydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhelir am 1.00pm ddydd Sadwrn, 4 Mawrth 2023.

Mae’r Parêd yn cydnabod ei gyfraniad i fudiad yr Urdd yn genedlaethol ac yn arbennig ei gyfraniad yn lleol fel gŵr busnes a hyrwyddwr y Gymraeg. Ar ôl gweithio i’r Urdd, sefydlodd Wyn gwmni cysylltiadau cyhoeddus Strata Matrix a bu’n rhedeg Deli Cymru ar Rodfa’r Gogledd hefyd am gyfnod. Bu’n Gadeirydd yr Urdd ac mae nawr yn Llywydd Anrhydeddus.

Daw Wyn yn wreiddiol o Dregaron, ond mae’n byw yn Llanfihangel Genau’r Glyn (Llandre) ers blynyddoedd lawer ac yn artist uchel ei barch.

Dewiswyd ‘Tywysydd’ er anrhydedd ym mhob gorymdaith Gŵyl Dewi ers ei sefydlu yn 2013, a’r Tywysydd fydd yn arwain y Parêd drwy dref Aberystwyth. Mae’n arwydd o ddiolch a gwerthfawrogiad cymuned Aberystwyth i berson neu bersonau lleol sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i iaith a diwylliant Cymru.

Roedd gan gwmni Strata (Strata Matrix yn ddiweddarach), a sefydlwyd gan Wyn yn 1979, swyddfeydd yn Aberystwyth a Chaerdydd. Hwn oedd y cwmni cysylltiadau cyhoeddus dwyieithog cyntaf, a bu’n gweithredu am 30 mlynedd.

Bu Wyn hefyd yn weithgar dros y Gymraeg drwy fod yn un o sylfaenwyr y cylchgrawn Golwg, a phapur bro ‘Y Tincer’, a bu’n ymgyrchu am dros ddeng mlynedd i ennill statws i enw gwreiddiol Llandre, sef Llanfihangel Genau’r Glyn, yn enw swyddogol. Bu’n ganolog hefyd yn sefydlu Banc Bro yn y gymuned fel adnodd i godi arian a thynnu’r gymuned at ei gilydd. Mae llwybr barddoniaeth cyhoeddus – Llwybr Llên Llanfihangel Genau’r Glyn (Poetry Path yn Saesneg) wedi ei ddatblygu mewn coedlan o’i eiddo i glodfori traddodiad barddol y fro.

Ac yntau’n gyn-fyfyriwr Celf, dychwelodd at ei ddiddordeb byw mewn celfyddyd gain ac ar ôl ymddeol ailgydiodd yn y brwsh paent wedi bwlch o ddeugain mlynedd. Bu’n gynhyrchiol iawn ac mae wedi llunio 450 o ddarluniau gwreiddiol, ac mae ei waith i’w weld ledled Cymru mewn cartrefi ac orielau celf. Mae ei waith wedi teithio ymhell ac mae ei ddarlun o gapel Soar-y-mynydd yn eiddo i gyn Arlywydd yr Unol Daleithiau Jimmy Carter a’i lun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig, yn Gracelands, Tennessee, hen gartref y ‘Brenin Roc a Rôl’, sydd bellach yn amgueddfa a chreirfa i gofio Elvis