calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 28 Mawrth 2024

Eglwys Wyllt

16:00
Yn edrych ymlaen tua chynhadledd COP-26 Cyswllt: Parch Sarah Roberts (sarahroberts@cinw.org.uk) Facebook: Eglwys Wyllt

Gŵyl Sŵn

Hyd at 17 Hydref 2021 (£20.00-£30.00)
Mae’r ŵyl eleni ar raddfa lai a phopeth yn digwydd i gyd ar Stryd Womanby, ‘calon sîn gerddoriaeth fyw’ y brifddinas.

Cyflyrau Dynol Clai

Hyd at 13 Chwefror 2022
Sioe sy’n edrych ar y modd y mae dynoliaeth yn cael ei mynegi drwy gyfrwng clai.

Shwmae a Siopa

Hyd at 15 Hydref 2021, 19:00 (Am ddim)
Noson Siopa a Shwmae gan Menter Gorllewin Sir Gâr, yn Yr Atom, Stryd y Brenin, Caerfyrddin. 15/10/21 o 5-7yh. Dewch i gefnogi 9 busnes lleol. I gofrestru: fwy o fanylion: ceris@mgsg.cymru

Reslo Cymreig

18:30 (£8.00 - £10.00)
Mae cewri’r gornestau reslo ar daith drwy Gymru.

Gŵyl UMCB

Hyd at 16 Hydref 2021, 23:00
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor yn cyflwyno GŴYL UMCB Gŵyl i ddathlu Wythnos Shwmae Su’mae gyda Bandiau ac Artistiaid ifanc a lleol yn llenwi strydoedd Bangor â’i miwsig.

DRYMBAGO, HEDGE GODS + DJ

19:00 (£10 - Mynediad i 2 efo 1 tocyn!)
Prynwch docyn i’r sioe hon a dewch â ffrind am ddim. Noddwyd gan Y Loteri Genedlaethol Revive Live Tour

Bingo

19:00 (£5 am lyfr 6 gêm)
Rhaid archebu tocynnau – ffoniwch Barbhara Owen 600530; Glenys Morgan 600371; Ian Hughes 600931.

‘Y Gair tu ôl i’r Gân’ – noson yng nghwmni Robat Arwyn

19:30 (Am ddim)
Noson agoriadol Cymdeithas Lenyddol y Garn, dros Zoom. Am fanylion cysylltu: ymholiadau@capelygarn.org

Marathon GIFs Mwydro

Hyd at 15 Hydref 2021, 21:00
I ddathlu diwrnod Shwmae Su’mae eleni, bydd Sioned o Mwydro yn ymgymryd mewn Marathon Dylunio GIFs draw ar ei thudalen Instagram nos Wener yma! ????????

Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Y Llygad

Hyd at 17 Hydref 2021 (£25.00 - £50.00 ac yn ddigidol)
Sgyrsiau gan ffotograffwyr uchel eu parch, gan gynnwys Vanley Burke, y ‘Godfather of Black British photography.’ Un arall sy’n rhan o’r ŵyl yw Dafydd Jones a symudodd o …

Diwrnod Hwyl

Hyd at 16 Hydref 2021, 15:00
Dydd Sadwrn 16 Hydref bydd gennym ddiwrnod hwyl rhithiol.

Bore coffi Tir Dewi

10:30 (£3 i oedolion a £1 i blant)
Bore coffi i godi arian at elusen Tir Dewi ar 16/10/21 yn Festri Bryngwenith, Henllan SA44 5TY. Cyfle i gymdeithasu a dod at ein gilydd ar ôl cyfnod anodd. Croeso cynnes i bawb.

Gweithdy Celf efo Jŵls Williams

Hyd at 16 Hydref 2021, 13:00
Fel rhan o Ddiwrnod Hwyl Popdy rydym yn cynnal gweithdy celf efo Jŵls Williams i blant 8-12 oed. Bydd y gweithdy ar Zoom. Cysylltwch â neges@menteriaithbangor.cymru am y manlion i ymuno.

Gwyl Storiwyr Ifainc Cymru 2021

13:00 (am ddim)
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu’n dod o Gymru, yn dros 16 oed ac yn teimo y gallwch chi fod yn Storiwr Ifanc nesaf Cymru,mae cystadlu yn hawdd.

Taith Gerdded Croeslan i Landyfriog 

10:00 (£3)
gyda Croeso i Gerddwyr Llandysul a Phont-TyweliDydd Sul, Hydref 17, 10yb.

Cwrdd diolchgarwch Capel Undodaidd Cribyn

17:00
Cynhelir gwasanaeth diolchgarwch yng Nghapel Undodaidd Cribyn ar ddydd Sul y 17eg o Hydref am 5 o’r gloch yng ngofal y Parchedig Athro Densil Morgan.

John Dilwyn – Hanes Siop Griffiths

19:00
Dewch i glywed hanes o Dyffryn Nantlle. Noson o drafodaeth difyr yng ngwmni John Dilwyn; yn trafod Siop Griffiths trwy’r blynyddoedd ac hanes stryd fawr Penygroes.

Cat On A Hot Tin Roof (Theatr Clwyd)

Hyd at 23 Hydref 2021 (o £10.00)
Cynhyrchiad newydd o ddrama fawr Tennesse Williams am un noson boeth ar lannau’r Mississippi, wedi ei chyfarwyddo gan Anthony Ameida, enilludd Gwobr Cyfarwyddwr Syr Peter Hall RTST 2019.

Taith Llygoden yr Eira 2021

12:30 (£8.50 i blant, £10.50 i oedolion, £32 i deulu o 4 (rhaid i o leiaf un fod o dan 18 oed))
Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn cyflwyno LLYGODEN YR EIRA Yn seiliedig ar gynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan the egg a Travelling Light Theatre Company.Mae’r gaeaf wedi cyrraedd …

Il Tabaro (Opera Canolbarth Cymru)

19:30 (£11.00)
Cynhyrchiad newydd o waith Puccini, Il tabarro (‘Y Clogyn’), gyda chwe chantor a phedwar cerddor. Yn ail hanner y cyngerdd, bydd cymysgedd o eitemau cerddorol eto ar thema Paris.

Whodunnit

Hyd at 20 Hydref 2021, 20:00
Ymunwch â ni am noson o hwyl a chrafu pen i ddarganfod pwy laddodd Gwenda Gramadeg!

Cymdeithas y Penrhyn

19:30 (Aelodaeth Tymor (£10; £7) neu £3 y ddarlith)
Bethan Wyn Jones, Planhigion meddyginiaethol. Manylion ZOOM: ceris.gruffudd@googlemail.com

Il Tabaro (Opera Canolbarth Cymru)

19:30 (£15.50 - £16.50)
Cynhyrchiad newydd o waith Puccini, Il tabarro (‘Y Clogyn’), gyda chwe chantor a phedwar cerddor. Yn ail hanner y cyngerdd, bydd cymysgedd o eitemau cerddorol eto ar thema Paris.

Jo Thomas (Electroacwsteg Cymru)

19:30 (£5.00 - £10.00)
Cyfansoddwr ag enw rhyngwladol a gafodd ei gradd ym Mhrifysgol Bangor, yn cyflwyno rhaglen o’i chelf sonig, ‘Resonant Pasts, Sonic Futures’.

Cynllun SIARAD 

Cynllun Siarad Dach chi’n siarad Cymraeg? Dach chi’n awyddus i helpu pobol sy’n dysgu Cymraeg? Mae Siarad yn gynllun i helpu dysgwyr sy’n gallu cynnal sgwrs ac eisiau ymarfer.

Sgwrs Cosyn Cymru ac Ogwen360

19:30
Dewch draw i Neuadd Ogwen i ddysgu mwy am un o gwmniau lleol yr ardal – Cosyn Cymru! Bydd Carrie Rimes yno i esbonio sut mae hi’n mynd ati i greu’r caws, a bydd cyfle i flasu a phrynu ar y noson!

Diod a Sgwrs yn y Boatyard Inn

19:30
Cyfle am ddiod a sgwrs i drafod datblygiadau ac unrhyw syniadau newydd ar gyfer gwefan BangorFelin360. Sut allwch chi ac eich ardal elwa?

Adam Stanović (Electroacwsteg Cymru)

19:30 (£5.00- £10.00)
Detholiad o weithiau sonig gan y cyfansoddwr Adam Stanović, yn mynd â ni ar siwrne i lefydd dychmygol a chyfarwydd, gan gynnwys drwy fecanwaith peiriant rhyfeddol.

Cyfarfod y Crynwyr Cymraeg

19:30
Cyfarfod arlein ddwywaith y mis i’r sawl sy’n dymuno crynwra yn gymraeg: hanner awr o ddistawrwydd disgwylgar i gychwyn; sgwrs a thrafod wedyn (dewch yn gynnar os am glonc cyn distewi) Ymwelwch â’n …

Sgwrs a diod yn BarBach

17:30
Cyfle am ddiod a sgwrs i drafod datblygiadau ac unrhyw syniadau newydd ar gyfer gwefan Caernarfon360. Sut allwch chi ac eich ardal elwa?

Papur Wal, Y Dail

19:30 (£6.00)
Bydd Papur Wal yn dathlu cyhoeddi eu halbwm newydd, Amser Mynd Adra.

Il Tabaro (Opera Canolbarth Cymru)

19:30 (£14.00)
Cynhyrchiad newydd o waith Puccini, Il tabarro (‘Y Clogyn’), gyda chwe chantor a phedwar cerddor. Yn ail hanner y cyngerdd, bydd cymysgedd o eitemau cerddorol eto ar thema Paris.

Marchnad Vintage, Hen Bethau A Chrefft Arberth

Detholiad o bethau vintage a chrefftau gwreiddiol.

Deian A Loli A Dygwyl Y Meirw

Hyd at 23 Hydref 2021
Bydd ffilm newydd am yr efeilliaid direidus yn cael ei dangos ar yr amseroedd yma ddydd Sadwrn, 23 Hydref, yn rhad ac am ddim; Y Stiwt, Rhosllanerchrugog, 11am, 12.30pm a 2pm Pontio, Bangor, …

Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

Hyd at 31 Hydref 2021
Cymysgedd o ddigwyddiadau byw mewn amgueddfeydd ar hyd y wlad, a gweithgareddau ar-lein.

Bore Coffi Eisteddfod Dyffryn Ogwen

Hyd at 23 Hydref 2021, 12:00 (£1)
Elw at yr Eisteddfod a gynhelir ddydd Sadwrn, 20/11/21

Sioe Llywelyn ein Llyw Olaf

10:30 (Am ddim)
Sioe Llywelyn ein Llyw Olaf gan Mewn Cymeriad. 23.10.21 am 10:30yb. AM DDIM Rhaid cofrestru o flaen llaw gyda gwyneth@mgsg.cymru (nifer cyfyngedig o docynnau)

Lansiad: Sara Mai a Lleidr y Neidr

14:00 (Am ddim)
Yn Palas Print am 2 o’r gloch ar brynhawn Sadwrn 23 Hydref bydd Casia, y cyn-Fardd Plant Cymru yn lansio ei chyfrol yn siop Palas Print Caernarfon yng nghwmni neidr go iawn o Sŵ Bae Colwyn!

Eisteddfod CFFI Eryri

16:00 (£10 i oedolion a £3 i blant ac aelodau)
Dewch i weld gwledd o gystadlu.

Reslo Cymreig

18:30 (£9.00 - £43.00)
Mae cewri’r gornestau reslo ar daith drwy Gymru.

Il Tabaro (Opera Canolbarth Cymru)

19:30 (£11.00)
Cynhyrchiad newydd o waith Puccini, Il tabarro (‘Y Clogyn’), gyda chwe chantor a phedwar cerddor. Yn ail hanner y cyngerdd, bydd cymysgedd o eitemau cerddorol eto ar thema Paris.

Cyfarfod Sefydlu Grŵp Cymunedol Twthill

18:00
Digwyddiad anffurfiol i sefydlu Grŵp Cymunedol Twthill. Dewch a’ch syniadau i’r Twthill Vaults nos Lun nesaf am 6 o’r gloch!

Noson Gwylio Sêr Ar Y Migneint

19:00
Taith gerdded fer i fyny at Lyn Conwy, a’r cyfle i ddefnyddio arsyllfa arbenigol i weld y sêr. Digwyddiad am ddim. Cyfarfod wrth Tŷ Cipar, Betws y Coed (LL240PA)