Paentiadau llawn dychymyg gan artist a gafodd ei fagu yn Ynys Môn ac a fuodd yn byw ac yn gweithio yn Ffrainc, yn yr Unol Daleithiau a Mecsico ond sydd wedi cadw cysylltiad cryf gyda Chymru …
Tair dawns gyfoes: ‘Afterimage’ – sy’n defnyddio drychau i wneud i gymeriadau ddiflannu ac wedyn ailymddangos ar y llwyfan; ‘Why Are People Clapping!?’ – …
Dowch i eistedd rownd y tân am sgwrs a glasiad o Glühwein yn Gerlan ar y “patio mawr” wrth y llyfrgell planhigion. Dowch â log a chwpan ac mi sortiwn ni’r diodydd.
Cyfle i glywed sawl clasur o hen gatalog y seren Mark Roberts, gynt o’r Cyrff, a stwff oddi ar ei albym unigol ddiweddaraf, Llwyth. Darllenwch am albwm diweddaraf MR yma
Hyd at 6 Tachwedd 2021, 19:30 (Oedolion £3, Plant £2, Myfyrwyr £2.50)
Arddangosfa tan gwyllt blynyddol gan Ford Gron Llambed. Unrhyw elw tuag at achosion da lleol. Dim bwyd ar gael a dim coelcerth eleni er mwyn creu mwy o le.
Sioe o ddarluniau a phaentiadau yn dathlu pen-blwydd yr arlunydd o Bontardawe yn 80 oed. Mae yn cofnodi cymeriadau cymunedau diwydiannol y de, yn nhraddodiad Josef Jerman a Will Roberts.
Ymunwch mewn noson gyda Angharad Tomos yn trafod casgliad o llythyrau coll R Williams Parry i Silyn. Trafodaeth o berthynas dau o feirdd enwog Dyffryn Nantlle; R. Williams Parry ac R.
Bydd Cyfarfod Cyffredinol Menter Iaith Bangor yn cael ei gynnal yn rhithiol nos Fawrth, 9 Tachwedd, am 6pm. Byddwn yn rhannu dolen gyda’n holl gysylltiadau e-bost yn nes at yr amser.
Ail Sadwrn y mis – Marchnad Ogwen! Nifer amrywiol o Stondinau yn gwerthu bwydydd a chrefftau lleol. Mynediad yn rhad ac am ddim i sicrhau eich siopa Dolig heb orfod symud o Fethesda!
Lansiad llyfr newydd Painting the Beauty Queens Orange sydd yn cofio bywyd merched yn y saithdegau. Cyfraniadau gan Rebecca F John, Sue Bevan, Sue Davies a Liz Jones.
Roedd sioe newydd Shôn Dale-Jones yn mynd i fod am gariad. Ond beth ydych chi’n ei wneud pan rydych yn ysgrifennu sioe am gariad, ac mae popeth yn mynd yn dywyll?