Rhwng 26 Gorffennaf a 26 Awst, bydd ymwelwyr â Chastell Conwy ar ddyddiau Gwener yn cael eu diddanu gan ddigrifwr y dref ac yn mwynhau hanesion yr oes a fu — wedi’u hadrodd gan y storïwr preswyl.
Mae Sali’r Wylan wedi cuddio rhywbeth gwerthfawr yn yr Amgueddfa …alli di gasglu’r geiriau o’r llefydd ar y map a’u rhoi at ei gilydd i ddarganfod lle mae’r trysor?
Gweithdy hamddenol yn edrych ar y cyswllt rhwng hunaniaeth queer â’n hamgylchedd drwy ddarlunio, lliwio a chreu collage.Mae croeso i chi ddod â rhywbeth sy’n eich ysbrydoli chi!
Galw holl egin beirianwyr! Defnyddia dy sgiliau dylunio ac adeiladu i gwblhau sialens XL Wales. 25 Awst- Hofrennydd Gallu di ddylunio ac adeiladu hofrennydd?
11:00 hyd at 16:00, 28 Awst (Prisiau mynediad safonol yn berthnasol)
Am ddiwrnod allan i’r teulu sy’n llawn hwyl hanesyddol a drama ganoloesol, mae Castell Harlech yn croesawu ymwelwyr i brofi’r wefr o fywyd mewn castell canoloesol.
11:00 hyd at 16:00, 29 Awst (Prisiau mynediad safonol yn berthnasol)
Gall ymwelwyr â Chastell Biwmares dros benwythnos gŵyl y banc dreiddio i fywyd y 12fed ganrif ar ei orau — gyda gŵyl ganoloesol flynyddol y safle yn dychwelyd.
Dewch i ddathlu ein cymuned arbennig yng Ngŵyl Haf Twthill! Miwsig byw Bingo Castell bownsio Peintio wyneb Gwisg Ffansi Pentra’r Plant Helfa Drysor Taith Gerdded Bar y Twthill Dewch â phicnic!
Galw holl egin beirianwyr! Defnyddia dy sgiliau dylunio ac adeiladu i gwblhau sialens XL Wales. 1 Medi – Tren Profa dy sgiliau peiriannu drwy ddylunio ac adeiladu trên tir.