calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 20 Ebrill 2024

Penwythnos Garddio Llandysul

Hyd at 19 Chwefror 2023 (Am Ddim)
Mae Penwythnos Garddio Llandysul yn ôl eleni ac yn denu ymwelwyr o ardal eang, ac yn cynnig cyfle i arddwyr nofis ynghyd a rhai mwyaf profiadol i ddechrau paratoi ar gyfer y gwanwyn.

Ffair Recordiau

10:00 (Am ddim)
Ffair Recordiau Dydd Sadwrn Chwefror 23ain, 2023 Canolfan y Morlan, SY23 2HH, Aberystwyth 10:00 – 3:30yp Amrywiaeth eang iawn o recordiau feinyl, CDs a chasetiau o bob math Amragor o fanylion …

Dysgu Cymraeg Trwy Garddio

Hyd at 18 Chwefror 2023, 14:00
Gweithdy ‘Dysgu Cymraeg Trwy Arddio’ gyda Adam yn yr ardd drwy prosiect Tyfu Ceredigion 🤩 📍Yr Ardd 🗓 18/02 🕙 10am-2pm 💰 Am Ddim 🎟 Eventbrite (neu/or) biodiversity@ceredigion.gov.uk Croeso i bawb

Marchnad Hen Bethau a Chreffau

Hyd at 18 Chwefror 2023, 16:00 (Am ddim)
Cymysgedd o nwyddau retro o’r 1930au i’r 1980au, a detholiad o grefftau gan wneuthurwyr lleol, dyma’r lle perffaith i ddod o hyd i drysorau unigryw.

Môrwelion

Hyd at 10 Medi 2023, 17:00 (Am ddim)
Mae Môrwelion yn arddangosfa newydd o ffotograffau gan yr artist Garry Fabian Miller – un o ffigurau mwyaf blaengar ffotograffiaeth gain.

Gwyl Gwrw a Seidr Llambed

Hyd at 18 Chwefror 2023, 23:00 (£4.50 gan gynnwys gwydr peint arbennig)
Gwyl Gwrw a Seidr gyda dewis eang o gwrw a seidr o bob rhan o Gymru. Pris mynediad £4.50 gan gynnwys gwydr peint arbennig neu £8.50 gyda thancard arbennig. Adloniant byw. Lluniaeth ar gael.

Sioe balŵn boncyrs

Hyd at 18 Chwefror 2023, 15:00 (Plant - £2.50)
Becky Kitter o CBeebies a Ha Ha Haires fydd yn cyflwyno sioe egnïol, ryngweithiol. Gyda balŵns, meim a llond trol o hwyl i’r teulu.

Croendena, Frân Wen

(£13-£15)
Drama newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun. Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion.

Cwrs Carlam Dysgu Nofio

Hyd at 24 Chwefror 2023 (£30)
Mae ein Cyrsiau Carlam Nofio yn rhoi cyfle i blant nofio bob dydd gyda’r nod o gyflymu eu cynnydd nofio a magu hyder yn y dŵr.

Gofod Gwneud – Sesiwn Torrwr Laser

Hyd at 20 Chwefror 2023, 20:00
Rhan o gyfres sesiynau agored pob nos Lun: Sesiwn torrwr laser

Adam yn yr Ardd… yn y Vale

19:30 (Am ddim)
Mae criw garddio’r Vale yn edrych mlaen i groesawu Adam yn yr Ardd i’r dafarn i drafod popeth yn ymwneud â garddio!

Croendena, Frân Wen

(£13-£15)
Drama newydd sbon am ferch ifanc sy’n benderfynol o ddilyn llwybr ei hun. Seshis yn y pyb. Dyddia lan môr. Cywilydd corff. Straeon a sibrydion.

Bore Coffi

10:30
Te neu Goffi, Biegedi a Raffl yn Ysgol Tregroes. 3ydd bore Mawrth bob mis.

Stori a Chân

11:00 (Am Ddim)
Bydd sesiwn Stori a Chân ar Ddydd Mawrth, Chwefror 21ain, 2023 am 11yb. Mynediad am ddim. Addas i blant oed cyn-ysgol ac oed cynradd.  Dylai plant fod yng nghwmni eu rhieni, gofalwyr, neu warchodwyr.

Balwnau Crefftus!

Hyd at 21 Chwefror 2023, 15:30 (Am Ddim)
Stretsiwch e, chwythwch e, byrstiwch e – dewch i ddathlu’r hen falwn cyfarwydd trwy greu tair crefft cŵl gan gynnwys roced a pom-pom!

Paned a Phancos

19:00
Noson Gymdeithasol i godi arian i apel Hadau Gobaith. Croeso cynnes i bawb

Clwb Cynganeddu Caernarfon

20:00 (£2)
Eisoes yn deall rheolau’r gynghanedd? Yn awyddus i ymarfer eich crefft? Dewch i Glwb Cynganeddu Caernarfon!

Balwnau Crefftus!

Hyd at 22 Chwefror 2023, 15:30 (Am ddim)
Stretsiwch e, chwythwch e, byrstiwch e – dewch i ddathlu’r hen falwn cyfarwydd trwy greu tair crefft cŵl gan gynnwys roced a pom-pom!

Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs

13:00
‘Bywyd a marwolaethau Edmund Bernard Reece’ – Crwner Caerdydd & O Gymru Wyllt i Wlad y BasgYmunwch â ni yn y drydedd mewn cyfres o gyflwyniadau Dau Wrthrych, Dwy Sgwrs, pan …

Peint a Sgwrs Pesda

Hyd at 22 Chwefror 2023, 21:00 (am ddim)
Sesiwn sgwrsio gymdeithasol i siaradwyr Cymraeg – hen a newydd

Balwnau Crefftus!

Hyd at 23 Chwefror 2023, 15:30 (Am ddim)
Stretsiwch e, chwythwch e, byrstiwch e – dewch i ddathlu’r hen falwn cyfarwydd trwy greu tair crefft cŵl gan gynnwys roced a pom-pom!

‘Te Bach’ efo Dafydd Iwan

Hyd at 23 Chwefror 2023, 17:00
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad unigryw hwn yn STORIEL! Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi ym Mangor byddwn yn croesawu’r chwedlonol Dafydd Iwan am sgwrs a phaned.

Cwis Chwe Gwlad y Vale – Lloegr

20:00
Cwis byr am yr hen elyn, chwaraeon ac ambell beth arall! Owain Dafydd sy in charge o’r cwis yma – y trydydd mewn cyfres o cwisys ar nosweithi Iau cyn gemau rygbi Cymru.

Gwylnos Wcráin

Hyd at 24 Chwefror 2023, 19:00
Pan ddaw 24 Chwefror eleni, bydd yn flwyddyn ers i luoedd Rwsia ddechrau’r ymosodiad ar Wcráin. Byddwn yn cynnal gwylnos yn Festri Bronant y noson honno ac yn casglu arian at apêl DEC Wcráin.

Cyfres Caban 2

19:00
ADLONIANT; DIWYLLIANT; CHWYLDRO! YesCymru Bro Ffestiniog yn cyflwyno’r ail mewn cyfres o nosweithiau yng nghaffi Antur Stiniog.

Amgueddfa Syr Henry Jones

19:00 (am ddim)
Sgwrs yn Gymraeg gan Ann Vaughan – gyda chyfieithiad opsiynol Mae Amgueddfa Syr Henry Jones yng nghanol pentref Llangernyw ar y brif ffordd A548 o Abergele i Lanrwst.

Noson o adloniant yng nghwmni Hogia’r Bonc

19:00 (£5)
Carnifal Bethesda yn cyflwyno’r noson

Twrnament Pool y Vale: noson gyntaf

19:30 (£5)
Y cyntaf yng Nghyfres Pool 2023 y Vale! Bob nos Wener ola’r mis bydd twrnament pool yn y Vale.

Gig Tecwyn Ifan

20:00
Dewch draw i Lle Arall ar lawr gwaelod Llety Arall, Caernarfon am noson o gerddoriaeth gan un o gewri’r genedl – Tecwyn Ifan!

Rhedeg Parkrun Penrhyn mewn Lliwiau Cymru

Hyd at 4 Mawrth 2023, 10:30
I ddathlu Gwyl Dewi yng nghanol yr wythnos mi rydan ni yn annog pobl i wisgo lliwiau Cymru i ddathlu Gwyl Deiw Bangor.

Dewch i Ganu – Dysgu’r Anthem Genedlaethol!

11:00 (Am ddim)
Mae’r digwyddiad poblogaidd yn ôl!   Sesiwn arbennig i rai sydd eisiau ychydig o help i forio canu’r anthem genedlaethol!

Gwneud a chymeryd Dewi Sant: Gwisgo’r Ddraig

Hyd at 25 Chwefror 2023, 15:30 (Am Ddim)
Galwch draw i wneud Penwisg y Ddraig drawiadol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Sgwrs am Dewi Sant

Hyd at 25 Chwefror 2023, 16:00 (Am ddim)
Sgwrs i Gymdeithas Africa Gogledd Cymru am Ddewi Sant, pwy oedd o pham ei fod mor bwysig i’r Cymru? Gwybodaeth i bobl sydd yn gwybod dim am Ddewi Sant. Ar agor i bawb dim angen cofrestru.

Hwyl Ddewi 2023

18:30 (£8 i oedolion £2 i blant)
Dewch i ddathlu HWYL DDEWI 2023 Nos Sadwrn 25 Chwefror Cawl a Chân yng nghwmni’r gerddorfa iwcalili IWCADWLI Gweinir Cawl o 6.30 ymlaen Adloniant 7.30 Tocynnau: £8 i oedolion£2 i blant E-bostiwch …

Arddangosfa Briodas

Hyd at 26 Chwefror 2023, 16:00 (Am ddim)
O 11 tan 4, fe fyddwn yn arddangos ein cyfleusterau priodas fforddiadwy yng nghalon Llambed: ystafelloedd hanesyddol i gynnal seremonïau sifil, neuadd fwyta i ddal hyd at 250 o fobl ac adeiladau …

Cinio Dydd Sul

Hyd at 26 Chwefror 2023, 14:30 (1 cwrs £10.95 | 2 gwrs £12.95)
Cinio Dydd Sul carferi gyda’r trimmins i gyd – yn ôl am un Sul yn unig! Dewch â’r teulu oll. I gadw lle, ffoniwch 01267 222252.

Parti Dydd Gŵyl Dewi

Hyd at 26 Chwefror 2023, 16:00 (Am Ddim)
O gorau a chrefftau i ddreigiau a chennin pedr, pa ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru

Gwneud a chymeryd Dewi Sant: Gwisgo’r Ddraig

Hyd at 26 Chwefror 2023, 15:30 (Am Ddim)
Galwch draw i wneud Penwisg y Ddraig drawiadol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Ffilm Dewi Sant: How To Train Your Dragon: The Hidden World (PG, 2019)

14:30 (Am ddim)
Ffilm am ddim i’r teulu.   Rhaid i Hiccup a Toothless chwilio am y ‘byd cudd’, utopia cudd i ddreigiau, cyn i’r dihiryn Grimmel ddod o hyd i’r lle.

Noson o sgyrsiau

19:30 (£10)
Alf Bodenham – cerdded o John O’Groats i Land’s End Mike Raine – Beic-bacio 550 Cymru Tocynnau wrth y drws, am ddim i aelodau Cymdeithas Eryri Holl elw tuag at Gymdeithas …

Ffair Swyddi Caernarfon

Hyd at 28 Chwefror 2023, 14:00 (Am ddim)
Ffair Swyddi Gwaith Gwynedd

Gofod Gwneud – Gwnio

Hyd at 28 Chwefror 2023, 19:00 (Am ddim ond gwerthfawrogi cyfraniadau tuag at deunyddiau)
** Lleoliad wedi newid i’r swyddfa Dyffryn Gwyrdd!** Ymunwch â ni i ddysgu sgiliau gwnïo a chael go ar greu dilledyn, fag, neu fel arall.  O dan 16 i fod gydag oedolyn.  Cysylltwch am fwy o …

Gyrfa chwist

19:00
Croeso cynnes i bawb

Gwlad yr Asyn yn Llyfrgell y Dref

Hyd at 28 Chwefror 2023, 21:00 (Am ddim)
Wyn Mason, awdur “Gwlad yr Asyn”, llyfr diweddar Gwasg Carreg Gwalch yn siarad yn Llyfrgell y Dref Aberystwyth.

Arddangosfa Celf Coast Cymru

Hyd at 26 Mawrth 2023, 16:00 (Am ddim)
Fis Mawrth, bydd gweithiau ugain o artistiaid a beirdd blaenllaw o Gymru yn dod at ei gilydd o dan yr un to am y tro cyntaf erioed — mewn arddangosfa a ysbrydolwyd gan Lwybr Arfordir Cymru.

Arddangosfa Celf Coast Cymru

Hyd at 26 Mawrth 2023, 16:00
Arddangosfa o waith cyffrous, wedi’i greu gan rai o artistiaid a beirdd gorau Cymru Ym mis Mawrth eleni, bydd yr Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd yn croesawu arddangosfa gelf unigryw yn arddangos …

Dathliad Gŵyl Dewi Tregaron

13:15 (Am ddim)
🌼🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Dathliad Gŵyl Dewi Tregaron 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🌼 ⏰1.15pm @ Ysgol Henry Richard 📆01/03/23 📍Neuadd Goffa Tregaron Ymunwch gyda Chyngor Tref Tregaron i ddathlu Gŵyl Dewi!

Twmpath

18:00 (£1)
Croeso cynnes i bawb i ddathlu 50 flwyddyn o Sgowtiaid yn Llandysul Gyda cawl, cacen a lluniaeth ar gael. Mynediad = £1 cyfraniad awgrym

Peint a Sgwrs

Hyd at 1 Mawrth 2023, 21:00 (Am ddim)
Sesiwn sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg ac i siaradwyr iaith gyntaf gymdeithasu Croeso i bawb!

Cwis Dydd Gŵyl Dewi Sant

Hyd at 1 Mawrth 2023, 21:00 (am ddim)
Cwis yn Gymraeg i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant.

Panad a Moidr

12:00 (Am ddim)
Cyfle i sgwrsio ac ymarfer Cymraeg mewn sefyllfa hamddenol. Addas ar gyfer siaradwyr newydd a rhugl. Gofynnwch am Mei o Fenter Iaith Bangor.