Arddangosfa Aeaf

17 Tachwedd 2021 – 8 Ionawr 2022

Sioe grŵp cyntaf yr oriel ers iddo ailagor ym mis Medi, yn cynnwys dros 200 o weithiau gan artistiaid yr oriel. Dyma un o sioeau mwyaf poblogaidd y flwyddyn, ac fe gewch y cyfle i weld a phrynu gwaith gan rai o brif artistiaid Cymru, ddoe a heddiw, gan gynnwys Kyffin Williams, Ceri Richards, Peter Prendergast, David Jones, Gwilym Prichard, Shani Rhys James, Harry Holland, Kevin Sinnott, Mary Lloyd Jones, Sally Moore, Meirion Ginsberg a llawer mwy.