Cerdded, crafu pen, clonc a chacen

14:00, 4 Medi 2021

£3 oedolion £1 plant (yn cynnwys paned a chacen)

Cylchdaith 2 filltir ar droed o gwmpas Llanilar (trwy’r pentref ac ar hyd y llwybr seiclo) gyda phosau i’w cwblhau ar hyd y ffordd. Addas i’r teulu cyfan. Gwobr i’r enillwyr (Tocyn rhodd £10 Siop y Pentref, Llanilar).

Gallwch ddechrau’r daith unrhyw bryd rhwng 2 a 4pm.

Dewch i fwynhau paned a chacen yng Nghanolfan yr Hen Ysgol Llanilar ar ôl cwblhau’r daith gerdded. Mi fydd seddi ar gael tu fewn a thu allan. Mae croeso i chi ddod i’r neuadd yn unig os nad yw’r cerdded yn bosib i chi.

Trefnir y digwyddiad gan bapur bro Y DDOLEN fel rhan o Gŵyl Bro.

Croeso i bawb.