Newyddion Cyffrous! Cyfres Cerddoriaeth Arbrofol ac Arloesol yn dod i ganolbarth Cymru, i DREGARON
Gig Cyntaf- 29.10.21 FFRWD a Ceri Rhyd Matthews, 7.30 yh, Oriel Rhiannon, Tregaron
Os ydych chi yma, yn agos neu o fewn cyrraedd, beth am ddod draw, dyma’r cyngerdd cyntaf o’i fath cyn belled ag y galla i gofio (neu erioed?) yn Nhregaron, mae’n siŵr o fod yn noson ysbrydoledig gyda cherddoriaeth anhygoel gan FFRWD a Ceri Rhys Matthews fydd yn cyflwyno cerddoriaeth ar gyfer synths modiwlaidd a ffliwt ….. mae mwy o ddigwyddiadau / prosiectau ar y gweill ar gyfer mis Mawrth a mis Gorffennaf, dewch i gefnogi’r gerddoriaeth yma. Cefnogir ein cyfres newydd gan Dŷ Cerdd ac mewn cydweithrediad ag Oriel Rhiannon – diolch yn fawr i’r ddau ac i’r artistiaid am wneud hyn yn bosibl.