Clive Hicks-Jenkins: Anturiaethau Mewn Llyfrau

13 Hydref 2021 – 30 Hydref 2021

Y llynedd bu’r artist a gwneuthurwr print Clive Hicks-Jenkins yn gweithio ar sawl llyfr nodedig, gan gynnwys comisiwn Faber & Faber i wneud lluniau ar gyfer cyfieithiad newydd y bardd Simon Armitage o The Owl & the Nightingale a llyfr lluniau bach, The Bird House, ar gyfer y cyhoeddwyr Design for Today. Yna bu’n cydweithio gyda’r bardd Olivia McCannon ar y stori dylwyth teg Beauty and the Beast, gan ddefnyddio ffynonellau llenyddol a sinematig ar gyfer y gwaith, yn benodol ffilm Jean Cocteau, La Belle et la Bête, yn 1946.