Cyflwyniad i Gwerth Cymdeithasol

09:30, 7 Rhagfyr 2021

£97.61-£108.39

Cyflwyniad i Fesur a Rheoli Gwerth Cymdeithasol 

Mae ein gweithgareddau yn sicr yn creu effaith ehangach na rhai ariannol. Gall fod yn newid i lesiant ac iechyd pobl, cymunedau cryfach, neu leihau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, ac mae’r rhain yn ddeilliannau pwysig o’n gwaith. Fodd bynnag, anaml yr ydym yn mesur a chyfathrebu’r rhain yn fewnol ac i eraill mewn ffordd ddefnyddiol. Term eang felly yw gwerth cymdeithasol sydd yn cael ei ddefnyddio i ddangos gallwn gofnodi gwerth thu hwnt i rai ariannol.

Mi fydd y rhaglen diwrnod yma yn rhoi cyflwyniad cam wrth gam ac ymarferol i’r broses gwerth cymdeithasol ac Adenillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiadau (SROI). Mi fyddwn yn dechrau gyda theori, ond yn defnyddio astudiaethau achos er mwyn gweithio drwy’r cwestiynau effaith ac adeiladu map gwerth.

Cynnwys Rhaglen

• Cyflwyniad i werth cymdeithasol

• Deall beth yw gwerth cymdeithasol

• Sut i fesur gwerth cymdeithasol

• Gweithio drwy’r deg cwestiwn effaith a fydd yn eich helpu i ddeall effaith eich gwaith

• Cyflwyno’r map gwerth

• Adnabod meincnodau, safonau a fframwaith deilliannau sydd yn bodoli yn barod

• Ymarferion ymarferol er mwyn sicrhau dealltwriaeth o sut i fesur gwerth cymdeithasol gweithgareddau eich mudiad gan gynnwys mapio rhanddeiliaid a mapio theori o newid

• Cyflwyniad i reoli gwerth cymdeithasol gan gynnwys cyflwyniad i’r ‘toolkit’ ar gyfer mudiadau

• Sut i ddefnyddio data i facsimeiddio eich effaith gymdeithasol