Cyflyrau Dynol Clai

15 Hydref 2021 – 13 Chwefror 2022

Sioe sy’n edrych ar y modd y mae dynoliaeth yn cael ei mynegi drwy gyfrwng clai. Un o’r enwau mwyaf adnabyddus o blith yr artistiaid yw Ai Weiwei, sy’n rhoi gwedd newydd i borslen traddodiadol. Ar wyneb sgleiniog ei waith Porcelain Vase (Crossing of the Sea) (2017) mae darluniau yn cyfleu trallod y rheiny sy’n gorfod ffoi ar y môr.