Hon yw’r ddrama olaf i Siôn Eirian ei chyflwyno i Bara Caws cyn ei farwolaeth yn 2020. Drama dreiddgar gyfoes am dair cenhedlaeth o ferched o’r un teulu, sy’n cael trafferth cyfathrebu â’i gilydd. Yr actorion yw Sharon Morgan, Eiry Thomas a Kizzy Crawford a’r cyfarwyddwr yw Betsan Llwyd. Cerddoriaeth gan Lleuwen Steffan a Choreograffi gan Eddie Ladd.