Fe erys swyn eu lleisiau… : Cofio’r ‘hen Frodyr Francis’

19:00, 28 Tachwedd 2021

Fe erys swyn eu lleisiau… : Cofio’r ‘hen Frodyr Francis’

Bydd y ddarlith hon yn adrodd stori’r ddau frawd talentog, y Brodyr Francis; y ddau chwarelwr o Nantlle fyddai’n serennu ar lwyfannau Cymru a thu hwnt yn chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae stori Griffith, y bardd, ac Owen, y cerddor, yn adlewyrchu gweithgarwch a bywiogrwydd llenyddol a cherddorol Dyffryn Nantlle ganrif yn ôl. 

Darlith cyfrwng Cymraeg gan Dr Ffion Eluned Owen, gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael hefyd.

Lecture in Welsh – English translation available.