Gareth Parry: Gwneud Lluniau

10 Hydref 2021 – 3 Tachwedd 2021

Arddangosfa fawr o waith yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, ar ei ben-blwydd yn 70 oed. Tirluniau trawiadol o fynyddoedd Eryri, Nant Peris a Dyffryn Ogwen, a’r môr ym mhenrhyn Llŷn. 

Mae’r Oriel hefyd wedi gwneud llyfr argraffiad cain cyfyngedig i fynd gyda’r sioe, sydd ar werth am £95.