Y Gerddorfa Siambr Gymreig

19:00, 25 Tachwedd 2021

£13.00 - £11.00 (Conc)

Sefydlwyd Y Gerddorfa Siambr Gymreig i lenwi’r bwlch cerddorol yng Nghymru rhwng perfformiadau unawdol a siambr a’r gerddorfa symffoni. Ers ei dechreuad ym 1986 y mae wedi perfformio gyda nifer o unawdwyr gorau’r byd, wedi teithio dramor yn Ewrop sawl tro yn ogystal â pherfformio trwy gydol y Deyrnas Unedig. Bu’n gerddorfa siambr preswyl am nifer o flynyddoedd yng Nghyfres Gyngherddau Ryngwladol Abertawe gyda pholisi arloesol llwyddiannus o roi ail berfformiadau o weithiau gan gyfansoddwyr Cymreig. Y mae wedi recordio nifer o raglenni teledu gan gynnwys cyfres opera a enillodd wobr yng Ngŵyl Ffilm Efrog Newydd. Mae’r gerddorfa wedi recordio sawl cryno ddisg masnachol, y cyntaf o weithiau William Mathias, a dau gryno ddisg o weithiau Alun Hoddinott. Y mae hefyd wedi recordio cryno ddisg o waith Michael Tippett, i’w ryddhau yn fuan. Mae’n rhan o bolisi artistig y gerddorfa ei bod yn perfformio mewn ardaloedd yng Nghymru lle mae cerddoriaeth gerddorfaol yn brin. Bu’n gerddorfa siambr breswyl ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam am nifer o flynyddoedd, gan ddarparu cyngherddau ar gyfer ysgolion yng ngogledd-ddwyrain Cymru; clywyd cerddorfa fyw am y tro cyntaf gan filoedd o blant yr ardal.

Rhaglen
Nathan James Dearden, Pedair Cân o Forgannwg

Saint-Saëns Prélude “Le Déluge”
Haydn, Symphony No. 85 (La Reine)