Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

23 Hydref 2021 – 31 Hydref 2021

Cymysgedd o ddigwyddiadau byw mewn amgueddfeydd ar hyd y wlad, a gweithgareddau ar-lein. Mae mwyafrif y digwyddiadau am ddim, fel y gweithdy ‘Dylunio Dail’ o dan ofal yr artist print Ruth Thomas (Venue Cymru, Llandudno, Llun, 25 Hydref 10 – 12pm, 2.30pm – 3.30pm); y gweithdy ‘Masg Emoji Celtaidd’ dan ofal yr artist Hannah Coates (Oriel Ynys Môn, Llangefni, Hydref 23 a 27, 11am, 2pm); a gweithdy ‘Hanes Bywyd Mary Seacole’ ar Zoom (o dan ofal Parc Treftadaeth y Rhondda) i rai 5 – 11 oed i ddysgu am fywyd y nyrs ddu yn ystod Rhyfel y Crimea.