Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Y Llygad

16 Hydref 2021 – 17 Hydref 2021

£25.00 - £50.00 ac yn ddigidol

Sgyrsiau gan ffotograffwyr uchel eu parch, gan gynnwys Vanley Burke, y ‘Godfather of Black British photography.’

Un arall sy’n rhan o’r ŵyl yw Dafydd Jones a symudodd o Gaerfyrddin i Rydychen pan oedd yn 10 oed, ac yna i Efrog Newydd yn 1989 i dynnu lluniau i gylchgrawn Vanity Fair. Bu’n cofnodi partïon pobol gyfoethog y ddinas.

Hefyd fe fydd gweithdai a chyfle i chi gael barn ar eich portffolio eich hun.

Bydd tocynnau ar gael i fynychu’r ŵyl mewn person neu ar-lein, diolch i bartneriaeth newydd gyda Culture Colony, gyda ffrydio byw o’r holl anerchiadau yn cael eu darlledu trwy blatfformau ar-lein Culture Colony.