Gŵyl sy’n llwyddo i ddenu rhai o fawrion y byd stand-yp yn Saesneg i’r dre, fel Rhod Gibert, Joe Lycett, Josh Widdicombe, Angela Barnes, a Rosie Jones ynghyd â llond gwlad o enwau eraill. Ymhlith y Cymry adnabyddus a fydd yno mae Carys Eleri a’i ‘Discoret’, stori garu drwy gyfrwng caneuon pop, Esyllt Sears a’i sioe ‘Absolutely Not’, Priya Hall (‘What it is’) a Tudur Owen, ‘Dim Pwysa’.