Gŵyl Gomedi Aberystwyth

1 Hydref 2021 – 3 Hydref 2021

Gŵyl sy’n cynnwys rhai o enwau mawr y byd stand-yp Saesneg, fel Rhod Gilbert, Joe Lycett, Angela Barnes, a Rosie Jones. Ymhlith y Cymry adnabyddus a fydd yno mae Carys Eleri a’i ‘Discoret’ – stori garu drwy gyfrwng caneuon pop, Esyllt Sears a’i sioe ‘Absolutely Not’, Steffan Alun (‘S Club Steffan’), Priya Hall (‘What it is’) a dwy sioe Gymraeg gan Tudur Owen, ‘Cawl Potsh’ a ‘Dim Pwysa’. Tybed sut sioe fydd ‘Comedy (Translation Provided)’ yn Theatr y Castell ddydd Sadwrn? Yn ôl yr hys-bys: ‘Syniad digon syml – sioe Gymraeg gyda gwasanaeth cyfieithu ar gael i’r di-Gymraeg. Yn anffodus, does dim digon o arian i gyflogi cyfieithwyr, felly mae’r digrifwyr eu hunain am roi cynnig arni. Dyma sioe a fydd naill ai yn ddigwyddiad diwylliannol hanesyddol neu yn sbloets llawn direidi a dryswch.’