Helfa Drysor Ddigidol

00:00, 6 Hydref 2021 – 23:59, 9 Tachwedd 2021

Pa mor dda mae eich teulu chi yn nabod Bangor, tybed? Rhwng hyn a 9 Tachwedd, gallwch brofi hynny trwy gymryd rhan yn ein Helfa Drysor Ddigidol. Teithiwch o gwmpas Bangor yn eich ceir a thriwch gael hyd i’r llefydd sydd ar y rhestr sydd i’w gweld ar ein tudalen Facebook. Anfonwch eich atebion trwy neges breifat atom (h.y. trwy Messenger) neu drwy’r e-bost (neges@menteriaithbangor.cymru). Mi fyddwn ni’n cyhoeddi’r enillydd yn fuan ar ôl y dyddiad cau. Y wobr? Bocs o driciau! Pob lwc!

Menter Iaith Bangor | Facebook