Gwaith newydd yn arbennig ar gyfer yr oriel gan Jodie Neale, enillydd cyfredol cyfres deledu boblogaidd Channel 4, The Great Pottery Throwdown. Mae’r crochenydd yn gweithio yn ei sied ar waelod ei gardd yn Hirwaun ger Aberdâr. 

Aeth i fyd nyrsio am gyfnod, a dilyn dosbarth crochenwaith gyda’r hwyr, a chystadlu maes o law ar y rhaglen deledu. “Ro’n i’n meddwl ei fod yn ffliwc llwyr fy mod i yno,” meddai, “ond dyma fi’n dechrau dweud wrth fy hun, os yw eraill yn gweld dawn ynof i, yna efallai y dylwn i ddechrau ei gweld hefyd.” v