Marathon GIFs Mwydro

20:00, 15 Hydref 2021

I ddathlu diwrnod Shwmae Su’mae eleni, bydd Sioned o Mwydro yn ymgymryd mewn Marathon Dylunio GIFs draw ar ei thudalen Instagram nos Wener yma! ????????

Os na wyddwch chi, mae Mwydro yn gyfrifol am dros 250 o’r GIFs geiriau Cymraeg sydd ar gael i’w ddefnyddio yn y bar chwilio GIFs cyhoeddus ar Instagram, TikTok a Snapchat. O fewn y Marathon Dylunio bydd Sioned yn ymgeisio i adeiladu ar y casgliad drwy gymryd ceisiadau byw a’u dylunio yn y fan a’r lle.?‍?

Felly ymunwch a Mwydro draw ar Instagram nos Wener yma’r 15fed o Hydref am 8pm!
A darllenwch yr hanes i gyd draw ar www.mwydro.com