Mydryddu’r Salmau: pedwar o olynwyr Edmwnd Prys 

17:30, 29 Tachwedd 2021

Symposiwm rhithwir i nodi 400 mlwyddiant cyhoeddi Salmau Cân Edmwnd Prys mewn tair sesiwn wythnosol yn ystod mis Tachwedd.

I gloi’r Symposiwm bydd Robert Rhys yn cyflwyno ac yn cloriannu salmau mydryddol Dafydd Jones o Gaeo, Morris Williams (Nicander), Gwilym Hiraethog a Gwynn ap Gwilym.