Noson Ogwen360 yng nghwmni Cosyn Cymru

19:30, 30 Medi 2021

Dewch draw i’r clwb criced a bowlio i ddysgu mwy am un o gwmniau lleol yr ardal – Cosyn Cymru!

Bydd Carrie Rimes yno i esbonio sut mae hi’n mynd ati i greu’r caws, a bydd cyfle i flasu a phrynu ar y noson!

Bydd hefyd yn gyfle i drafod gwefan Ogwen360, ac i rannu unrhyw syniadau newydd.

Niferoedd cyfyngedig. E-bostiwch gutojones@golwg.cymru i gadw lle.