Y Wal: Owain Sparnon Y Gwneuthurwyr:Elin Hughes Y Sgrîn: Laurentina Miksys

2 Hydref 2021 – 13 Tachwedd 2021

Mae Owain Sparnon yn ymateb i’r hyn mae yn ei weld bob dydd drwy gyfrwng ffotograffau, tirluniau, golau, sain a thrugareddau cyffredin.

Ar ei photiau ‘Pync Nain’, mae Elin Hughes yn cyfuno patrymau hen lestri Cymreig gyda ffurfiau afluniaidd er mwyn cyfleu natur gynnes, hwyliog ond cymhleth y Cymry, a’r gwrthdaro rhwng poeni am draddodiad a’r ysfa i edrych allan ar y byd.

Ffotograffydd Celf Gain yw Laurentina Miksys sy’n enedigol o Lithwania, sy’n chwarae â’n syniad o realiti.