Peint a Sgwrs

19:00, 27 Hydref 2021

Dowch draw am sesiwn sgwrsio hamddenol! Mae’r nosweithiau Peint a Sgwrs yn gyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg ac i siaradwyr profiadol gefnogi siaradwyr newydd.  

Am y tro cyntaf ers dros 18 mis byddwn ni’n ôl yn y dafarn. Ac os bydd hynny’n bosibl, byddwn ni’n cyfarfod yn y dafarn bob yn ail nos Fercher. Y dyddiadau nesaf ydy 10/11, 24/11 a 8/12.