Plaspren – y Plasty Coll

19:00, 10 Rhagfyr 2021

Am ddim

Sgwrs ar-lein yn Gymraeg gan Eira Jones

Beth oedd Gwylfa Hiraethog, y tŷ crand ar y mynydd uwchben Llyn Brenig? Magwyd Eira Jones yno pan oedd hi’n fach, rhwng pedair ac wyth oed, ac mae’n mynd i adrodd hanes rhyfeddol ei chartref.

Adeiladwyd y “plas pren” cyntaf yn 1898, wedyn datblygwyd plasty moethus ar y safle. Ond erbyn 1955 roedd yn dadfeilio. Erbyn heddiw does ond pentwr o gerrig ar ôl. Mae hanes cyfoethog i’r plas a adeiladwyd fel cartref haf i’r Arglwydd Devonport, er mwyn saethu grugieir ar y mynydd.

Bydd cyfieithiad ar y pryd opsiynol ar gael, diolch i Brenig Wind Ltd.

Ewch i’r wefan Cwmulus er mwyn cofrestru: