Taith Gerdded Nebo i Frynllidiart

10:30, 2 Hydref 2021

Taith Gerdded: Nebo i Frynllidiart Dewch am dro cylchol o Ysgol Nebo i Frynllidiart, yr adfail diarffordd – a thyddyn uchaf Dyffryn Nantlle – lle magwyd y ddau brifardd, Silyn a Mathonwy. Dydd Sadwrn, 2 Hydref 2021 Cychwyn am 10.30yb o Ysgol Nebo (lle parcio ar gael drwy garedigrwydd yr ysgol). Bydd y daith yn para tua 3 awr. Bydd y daith yn dilyn y llwybrau yr oedd Silyn a Mathonwy yn eu cerdded i’r ysgol – amodau corsiog a thir anwastad mewn mannau felly esgidiau addas yn bwysig. Dewch â fflasg a phicnic ar gyfer yr hoe ym Mrynllidiart. Taith yn cael ei thywys gan Dr Ffion Eluned Owen, fydd yn rhannu ychydig o hanesion a straeon yr ardal wrth i ni gerdded. Bydd cyfle hefyd i weld yr arddangosfa awyr agored o lythyrau caru Silyn sydd ym Mrynllidiart a chlywed Angharad Tomos yn adrodd ychydig o’u hanes. Taith wedi ei threfnu gan Yr Orsaf – cofrestrwch drwy anfon e-bost at Gwion: gwion.yrorsaf@gmail.com