Taith Llygoden yr Eira

10:00, 26 Tachwedd 2021

Tocynnau ar gael yn fuan

Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn cyflwyno

LLYGODEN YR EIRA

Yn seiliedig ar gynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan the egg a Travelling Light Theatre Company.
Mae’r gaeaf wedi cyrraedd ac mae’r eira yn garped ar lawr y goedwig. Gan wisgo’n gynnes, rhuthra blentyn allan i chwarae yn y byd newydd disglair.

Ond beth sy’n cuddio’n dawel dan yr eira? Llygoden fach yn cysgu’n sownd. Gan lithro, rolio a chwerthin, mae’r ddau ffrind newydd yn ymgolli gyda’i gilydd yn y byd rhyfeddol hwn.

Dewch i gadw’n gynnes yn yr eira mawr ac ymuno â ni ar antur yn y goedwig hudol.
Dyma stori aeafol swynol i blant bach, yn llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae.

Canllaw Oedran: Plant dan 5 oed a’u Teuluoedd

Hud: Tua 45 munud